Newyddion a Digwyddiadau
arddangosfa flynyddol 2026
Gwnaethom arddangos ystod eang o waith amrywiol a chyffrous gan ein harlunwyr a chawsom gefnogaeth dros dri chant a hanner o ymwelwyr, gyda llawer o sylwadau cadarnhaol yn ein Llyfr Ymwelwyr. Gweithdu Sarn y Plas Yn ddiweddar ar 30ain Ebrill 2025, aethom yn ôl i Sarn y Plas am y bore i fraslunio ac i beintio. Diolch i’r Ymddiriedolaeth, cawsom gyfle i i ymweld â thu mewn y bwthyn a chafwyd cefnogaeth staff Plas yn Rhiw. Cymerwyd llawer o luniau camera yn ogystal a brasluniau i’n hatgoffa o ddiwrnod poet yn yr haul. Diwrnod anhygoel arall i’w gofio. Gweithdu ‘Yn y Dechreuad …' Ar ddechrau mis Mawrth, cynhaliwyd wythnos o weithgareddau Cristnogol
yng Nghapel y Drindod Pwllheli gan gynnwys arddangosfa gelf dan ofal Lois
Adams ar y thema ‘Yn y Dechreuad …’
Penderfynwyd ein bod fel grwp am greu darn o waith celf ar gyfer yr
arddangosfa yn dilyn gweithdy ysgythru pwynt sych a drefnwyd gan Hafwen
Dorkins. Aethom ati i greu darluniau syml o saith niwrnod y creu, yna ysgythru
y llinellau ar daflenni plexiglas cyn taenu haen o inc dros y lluniau a’u gwasgu
drwy’r wasg argraffu. Wedi i’r gwaith inc sychu gorffenwyd trwy ddefnyddio
dyfrlliw neu bastelau. Gosodwyd y cyfan ar gynfas du ac ysgrifennu adnodau
o amgylch o llyfr Genesis o amgylch y lluniau gyda pin lliw aur.
Roedd yr arddangosfa yn hynod ddiddorol gyda gwaith arlunwyr lleol a
chenedlaethol a rhai o ysgolion Llŷn hefyd wedi creu gwaith cofiadwy iawn. Gweithdu Jane Fellows Ymaelododd Jane Fellows gyda’n grwp ym mis Medi 2024. Cytunodd i gynnal
gweithdy gyda’n haelodau yn ddiweddar a dyma grynodeb o’r gweithdy
cyffrous, hwyliog a llwyddianus iawn.
Title y gweithdy oedd ‘Morluniau mewn pastelau meddal, Gesso ac inc
acrylig’. Bydd Jane yn defnyddio papur pastel arbennig Uart 500, megis
papur tywodlyd, a llun camera o’r Eifl o Borthdinllaen.
Yn gyntaf, taenwyd haen o Gesso gyda chyllell baled ar y papur a darnau o
gerdyn wedi eu rhwygo i greu gweadau i gynrychioli’r mynyddoedd, creigiau
a’r gwellt. Mae Gesso yn gymysgedd o sialc a hylif a ddefnyddiwyd ers
canrifoedd i baratoi cynfasau ar gyfer eu peintio. Rhaid oedd sychu’r Gesso
gyda sychwr gwallt cyn symud ymlaen i’r cam nesaf. Yr ail gam oedd
cymysgu inc acrylig gyda dŵr a’i baentio ar y Gesso. Mae’r inc yn creu
patrymau diddorol wrth iddi suddo i mewn i’r craciau ar wyneb gweadlyd y
Gesso.
Y cam nesaf oedd peintio’r awyr gyda phastelau meddal ac yna cymysgu’r
lliwiau i’w gilydd gyda’r bysedd. Defnyddir yr un arddull gyda’r môr, y tir a’r
gwellt gan gyflwyno lliwiau newydd a fydd yn creu harmoni â’i gilydd.
Y cam olaf oedd llusgo pastelau meddal ar draws wyneb y Gesso i ddiffinio
gwead y creigiau a’r gwellt oedd cyn arddangos y gwaith gorffenedig. Gweithdu Sarn y Plas Ar 15ed Hydref 2024, gwahoddwyd ein grwp i ddigwyddiad diwedd tymor am waith Elsie Eldridge i glywed am a gweld ei darluniau bendigedig. Cafwyd cyfle hefyd i ddathlu llyfr gorffenedig ‘I Chwilio’ a ddarluniwyd gan blant Ysgol Crud y Werin mewn cydweithrediad ag Anni Llŷn a Tess Urbanska. Roedd plant yr ysgol yno hefyd. Digwyddiadau yn Sarn y Plas, Rhiw, Penrhyn Llŷn Mai 2024 - Mai 2025. Cartref Elsie Eldridge yr arlunydd a’i gwr RS Thomas y bardd. Trefnodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ychydig o weithgareddau ar gyfer y gymuned lleol, y cyntaf a gynhaliwyd ar 23ain Mai 2024. Cymerodd nifer o’n haelodau ran mewn gweithgaredd awyr agored o dan arweiniad Kim Atkinson, arlunydd ac argraffydd lleol. Cafwyd defnyddiau, te, coffi a bisgedi.
Cafwyd diwrnod cyffrous o beintio grwp yn y bore gan ddefnyddio cyfryngau cymysg a phaled o liwiau cyfyngiedig - peintio dail mawr o’r safle. Roedd unigolion wedyn yn peintio’r ddeilen o’u blaenau cyn symud ymlaen i’r ddeilen nesaf am ddau funud hyd nes roedd pawb wedi mynd o amgylch y bwrdd. Dyma ichi samplau o’r gwaith.
Yn y prynhawn, buom yn braslunio a pheintio yn haul cynnes y Gwanwyn a chafwyd diwrnod da gan bawb. Gweithdu Sue Walls Yn ystod mis Mawrth, cawsom weithdy ardderchog gyda Su Walls, arlunydd ac argraffydd o Bwllheli. Cyflwynodd hi blatiau papur pwynt sych ar gyfer argraffu i aelodau ein grwp. Yn y gorffennol, cawsom hwyl mewn gweithdy colagraff gyda Su, lle bu rhaid torri allan darnau o blat mowntio a'i selio â polish botymau cyn argraffu'r llun gyda gwasg argraffu. Mae defnyddio platiau papur pwynt sych yn broses llawer cyflymach. Torrir arwynebedd y papur gyda chyllell grefft finiog ac yna incio ac argraffu gyda'r wasg argraffu'n syth. Gweithdy cyllell balet gyda Steve Pablo Cawsom ddechrau da i'r flwyddyn gyda gweithdy cynhyrchiol a phleserus gan arlunydd Cymreig, Steve Pablo. Gan ddefnyddio ei dechneg bersonol ei hun yn ei ddarluniau, mi wnaeth Steve ein harwain drwy'r broses o ddefnyddio cyllell balet i beintio. Roedd hwn yn yn gyfle gwych i'n haelodau i arbrofi ac i weithio'n mwy hyderus a beiddgar! Roedd Steve yn barod iawn i sgwrsio gydag unigolion yn ein plith, i roi adborth a chyngor pan fo angen. Er nad oedd y dechneg o beintio at ddant pawb, roedd yn sesiwn diddorol ac yn brofiad addysgu gwerth chweil i'n haelodau. Gweithdai blynyddoedd blaenorol Yn wythnos gyntaf mis Hydref 2018, cawsom ein hysbrydoli gan Sharon Wagstaff, arlunydd proffesiynol sy'n gweithio mewn pastel, gyda gweithdy ardderchog ar bortreadu mewn pastel. Yn ddiweddarach ym mis Hydref 2018, cynhaliodd Sandra Muzzy, arlunydd dyfrlliw proffesiynol o'r Unol Daleithau, weithdy diddorol iawn ar sut i ddefnyddio gwrthrychau naturiol megis cregyn a cherrig i greu siapiau a phatrymau organic a lliwgar. Ym mis Ionawr 2019, cynhaliwyd sesiwn gyffrous o ysgythru pwynt sych ac argraffu ar ein gwasg argraffu. Arweinydd y sesiwn oedd Hafwen Dorkins, un o'n haelodau gyda phrofiad blynyddoedd ym maes argraffu. Parti penblwydd Stephanie
Am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r Ysgrifennydd, Kris Yarborough, Ebost
.


GWEITHDU














Yn mis Hydref 2018 cynhaliwyd parti bychan yn y neuadd i ddathlu penblwydd 100 mlwydd oed, Stephanie Watts, aelod hynod annwyl a bywiog o Arlunwyr Sarn Artists
Galeri
GWAITH rhai o'n haelodau
DYMA RAI O'R CANLYNIADAU 2020: cliciwch yma
DYMA RAI O'R CANLYNIADAU 2021: cliciwch yma
DYMA RAI O'R CANLYNIADAU 2022: cliciwch yma
DYMA RAI O'R CANLYNIADAU 2023: cliciwch yma
DYMA RAI O'R CANLYNIADAU 2024: cliciwch yma